HIV

Firws yw Firws Diffyg Imiwnedd Dynol ( neu ''HIV''). Mae'n fath o firws a elwir yn wrth-firws (''retrovirus''), sy'n heintio celloedd o'r system imiwnedd dynol, (gan fwyaf celloedd T CD4 positif a macroffagau, sy'n gydrannau allweddol o'r system imiwnedd gellog), ac fe ddinistrir neu amharir ar eu gweithrediad. Mae heintiad â HIV yn arwain at ddirywiad cynyddol o'r system imiwnedd gan ddilyn i 'ddiffygiant imiwnedd'.

Fe ystyrir y system imiwnedd yn ddiffygiol pan na ellir bellach gyflawni ei waith o ymladd afiechydon a heintiau. Mae pobl sydd â diffyg imiwnedd yn fwy tebygol o ddal heintiau sy'n anghyffredin ymysg pobl â system imiwnedd iach. Gelwir heintiau sy'n gysylltiedig â diffyg imiwnedd difrifol yn 'heintiau manteisgar' am eu bod yn cymryd mantais o system imiwnedd wan.

Nid oes iachâd i HIV ac nid oes brechlyn yn bodoli i atal heintio. Fodd bynnag, ers y 1990au, mae triniaethau cyffuriau sy'n atal gweithgaredd y firws yn y celloedd wedi cael eu datblygu. Mae'r rhain yn galluogi'r rhan fwyaf o bobl gyda HIV i aros yn iach a byw bywydau cymharol normal. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'HIV..', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    HIV: manual untuk tenaga kesehatan gan HIV..

    Cyhoeddwyd 1997
    Llyfr